top of page

Er bod cymorth penodol gan WCFD/PFCV bellach wedi'i gwblhau'n llwyddiannus, bydd yr Hybiau Bwyd a'r Peiriannau Gwerthu sefydledig yn parhau i weithredu fel arfer. Darllen mwy...

YMUNWCH Â'N 
CENHADAETH

Rydym ni yn PLANED yn cyflwyno nifer o fentrau sy'n canolbwyntio ar gynyddu mynediad at fwyd ffres a gwerth gwych yn ein cymunedau. Dysgwch fwy am y prosiectau hyn a sut y gallwch chi gymryd rhan isod.

CYMRWCH RAN...

Mae sawl ffordd o gymryd rhan ym Mhrosiect WCFD. Defnyddiwch y botymau isod i lywio i'ch maes diddordeb...

Cwsmer

Cyflenwr

Gwirfoddolwr

Hyb Bwyd

DARGANFOD FY HWB BWYD

  • Beth yw’r prosiect?
    Mae hybiau bwyd cymunedol WCFD yn ffordd wych o gysylltu pobl ag o ble daw bwyd. Fel rhan o raglen beilot Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, mae’r prosiect yn hwyluso’r gwaith o gysylltu gwirfoddolwyr â chyflenwyr a chynhyrchwyr bwyd er mwyn iddyn nhw gael gafael ar fwyd iach sy’n werth da am arian yn hawdd. Bydd cymunedau ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn cael cymorth uniongyrchol sydd wedi’i ariannu gan Swyddog Datblygu Prosiect er mwyn lansio hybiau bwyd cynaliadwy, a fydd yn canolbwyntio ar anghenion cymunedau.
  • Pwy sy’n ei ariannu?
    Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ariennir WCFD tan fis Mehefin 2023
  • Pa fwyd fydd ar gael yn yr hyb bwyd?
    Mae tîm WCFD yn helpu lansio hybiau bwyd cymunedol sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr i gynyddu mynediad at fwyd ffres sy’n werth am arian. Gall hyn gynnwys ffrwythau, llysiau, salad, cynnyrch llaeth, bara, pysgod, cig a mwy. Bydd eich Swyddog Datblygu yn gweithio gyda chi a’ch cyflenwyr lleol i ddod o hyd i’r dewisiadau iawn ar gyfer eich cymuned.
  • Ble galla i gael rhagor o wybodaeth am WCFD? Sut galla i gwrdd â’r tîm?
    Mae’r tîm ar gael am sgwrs am yr hybiau bwyd tan 30 Mehefin 2023. Mae gennym becyn cymorth ar gael yma gydag adnoddau a gwybodaeth am sut i sefydlu eich hyb bwyd cymunedol eich hun. Gallwch hefyd ymweld â hybiau bwyd cymunedol presennol a ddangosir ar ein map hybiau bwyd ar ddiwrnodau hwb.
footer-artwork.jpeg
bottom of page