

GWERTHU CYMUNEDOL FFRES
SIR BENFRO
TREIALU PEIRIANNAU GWERTHU BWYD FFRES LEDLED SIR BENFRO
Mae’r 2 beiriant peilot wedi’u lleoli yn Llanteg a Steynton ac yn cael eu stocio gan rwydwaith o gyflenwyr, tyfwyr a chynhyrchwyr lleol i bawb eu defnyddio.
Meddai Sue Latham, Cydlynydd y Prosiect "Roedd hwn yn brosiect peilot gwych a gyflwynwyd ochr yn ochr â Phrosiect Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru ac yn gweithredu model dosbarthu hyblyg, cynhwysol, amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy, gan ddod â grwpiau cymunedol, cynhyrchwyr bwyd a chyflenwyr yng Nghymru ynghyd i ysgogi cadwyni cyflenwi bwyd Cymru.”
Roedd y prosiect hwn yn rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020 (RDP) a'i nod yw cyflawni amcanion y Cynllun Datblygu Cydweithrediad a'r Gadwyn Gyflenwi (CSCDS).
Derbyniodd prosiect Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru a phrosiect Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Daeth y ddau brosiect i ben yn llwyddiannus ym mis Mehefin 2023.

Eisiau gwybod mwy?
Eisiau gwybod mwy am gyfleoedd gwerthu bwyd ffres yn eich cymuned? Eisiau sgwrsio am system fwyd lleol yng ngorllewin Cymru?
Cysylltwch â thîm bwyd PLANED ar wcfd@planed.org.uk neu 01834 860 965 i drafod ymhellach.
ASTUDIAETHAU ACHOS





Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi
CYSYLLTWCH Â NI
The Old School, Station Road, Narberth,
Pembrokeshire, Wales, SA67 7DU
01834 860965


Wales Community Food Distribution project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government