Mae C&M Organics yn fusnes teuluol llysiau a ffrwythau organig sy’n tyfu, cyflenwi a dosbarthu llysiau a ffrwythau ar draws De Orllewin Cymru.
Maent yn cyflenwi manwerthu gyda phwyslais ar eu cynnyrch eu hunain neu gynnyrch arall o Gymru cyn chwilio ymhellach. Maent yn prynu mewn gan dyfwyr o’r DU ac Ewrop er mwyn cadw cyflenwad parhaus o gynnyrch drwy gydol y flwyddyn. Mae ganddynt sawl cynllun blychau ar draws y tair sir yn Ne Orllewin Cymru ac yn cynnig system archebu unigryw.
Bet yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?
Gofynnwyd i C&M Organics ar ddechrau 2023 i gyflenwi Hwb Bwyd Cymunedol Llanbedr Pont Steffan sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan. Mae’r hwb bwyd cymunedol yn gwirfoddoli i gymryd archebion am fagiau ffrwyth a llysiau am £5 bob wythnos, gyda’r cyflenwr yn penderfynu ar y cynnwys, er mwyn rhoi’r gwerth gorau ar y diwrnod. Mae’r cyflenwr yn anfon y cynnyrch mewn swmp ac mae’r gwirfoddolwyr yn eu didoli i’r nifer o archebion a dderbyniwyd. Mae oddeutu 85% o'r cynnyrch o Gymru.
Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?
Mae gallu bod wedi ychwanegu Hwb Bwyd Cymunedol Llanbedr Pont Steffan i lwybr sydd eisoes yn bodoli wedi lleihau costau anfon ac wedi darparu sylw ychwanegol i’r busnes ar y cyfryngau cymdeithasol ynghyd â dod â rhagor o gwsmeriaid na fyddai fel arall wedi eu cyrraedd.
Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar y busnes?
Gan fod C&M eisoes yn brofiadol yn y cynllun blychau unigryw, mae hyn wedi eu galluogi i ymestyn eu sylfaen cwsmeriaid ymhellach a chael yr hawl i farchnad newydd heb fawr ddim o fewnbwn ychwanegol o ran amser.
Mae cael y rhyddid i ddewis cynnwys y bagiau hyn yn ein galluogi i gadw cynnwys y bag yn ddiddorol ac amrywiol wrth osgoi gwastraff a defnyddio digonedd. - C&M Organics
Mae popeth mor ffres...Mae’n well na’r archfarchnadoedd am sawl rheswm; mae’n werth da am arian, mae yna amrywiaeth dda, diogelwch bwyd r lefel leol.” - CWSMER HWB BWYD LLAMBEDR PONT STEFFAN
Dogfen ar gael:
Comments