Mae Cwsmer 1, 61 mlwydd oed, yn byw tua 1.5 milltir o beiriant gwerthu cymunedol Llanteg ac roedd wedi defnyddio peiriant gwerthu llaeth arall o'r blaen nes i’r un yma gael ei lansio gyda'r peiriant gwerthu cymunedol ochr yn ochr. Mae'n siopa ar gyfer ei deulu ac mae hefyd yn defnyddio siop fferm leol arall, cigydd a becws felly mae'n awyddus i gael cynnyrch ffres, lleol.
Beth yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?
Mae Cwsmer 1 yn defnyddio'r peiriant gwerthu llaeth ac yn prynu wyau, menyn, hufen, hufen iâ a chaws o'r peiriannau gwerthu cymunedol.
Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?
Mae cael cynnyrch lleol ar gael y drws nesaf i’r peiriant gwerthu llaeth yn ei gwneud mor gyfleus ac yn galluogi cwsmeriaid i alw heibio pryd bynnag maen nhw angen mwy. Mae'r ffaith bod y cynnyrch mor ffres, o ansawdd da ac yn dod o ffynonellau lleol yn bwysig iawn ynghyd â gwybod o ble mae wedi dod. Mae'n teimlo y byddai'r peiriant gwerthu yn ôl pob tebyg yn apelio at y rhai sy’n ymwybodol o’u hiechyd a'r rhai sy'n barod i dalu ychydig mwy am yr ansawdd a'r cyfleustra rhagorol.
Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?
Mae defnyddio'r peiriant gwerthu cymunedol yn golygu gallu cefnogi a chael cynnyrch ffres o ansawdd da, wedi'i gynhyrchu'n lleol. Mae'r ffaith bod y peiriannau ar agor 24 awr y dydd yn hynod gyfleus ac yn cefnogi busnesau lleol yn uniongyrchol, a gall alluogi twristiaid i brynu'n lleol hefyd, sy'n rhan o'u profiad gwyliau. Mae'n dda ar gyfer lleihau milltiroedd bwyd defnyddwyr mewn ardaloedd gwledig ac felly mae'n dda i'r amgylchedd.
"Rydyn ni'n hoffi cefnogi busnesau lleol fel hyn. Mae’n arloesol, mae’r peiriant gwerthu cymunedol yn dda i'r agenda werdd." - CWSMERIAD LLANTEG
"Mae'n lleihau milltiroedd bwyd ac mae'r peiriant gwerthu llaeth cyfagos yn ein galluogi i ailddefnyddio ac ailgylchu ein poteli llaeth" - CWSMERIAD LLANTEG
Dogfen ar gael:
Comentarios