top of page
suelatham7

ASTUDIAETH ACHOS: CWSMERIAID 2, PEIRIANT GWERTHU CYMUNEDOL LLANTEG

Mae Cwsmer 2, 72 mlwydd oed, yn byw hanner milltir i ffwrdd o beiriant gwerthu Llanteg ac roedd wedi bod yn defnyddio'r peiriant gwerthu llaeth sydd eisoes ar y safle ers peth amser. Mae'n mwynhau gallu cael gafael ar gynnyrch lleol ochr yn ochr â'r hyn mae'n ei ystyried yn llaeth mwy ffres, sy'n blasu’n well, heb orfod teithio'n bell.


Beth yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?

Mae Cwsmer 2 eisoes yn prynu cynnyrch o Siop Fferm Ardd Marchnad Greenacre ac wedi defnyddio'r peiriant gwerthu cymunedol i brynu cynnyrch fel caws lleol, cig eidion organig a chig oen. Mae'n ystyried defnyddio'r system ail-lenwi poteli llaeth yn ffordd gadarnhaol iawn o fod yn gyfeillgar i'r amgylchedd.


Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?

Mae gallu defnyddio'r peiriant gwerthu cymunedol i brynu cynhyrchion unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos mor gyfleus. Mae cael mynediad at fwyd a diodydd sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol a gwybod o ble mae'n dod yn fonws enfawr. Gan nad oes angen teithio ymhellach i'r siopau, nid yw'n ddrutach ac mae'n llai llygredig oherwydd bod y daith yn llawer byrrach.


Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?

Mae cael llaeth a chynnyrch lleol ffres, o safon a thrwy beiriant gwerthu cymunedol lleol yn hynod gyfleus. Mae gan Gwsmer 2 lety gwyliau, felly mae'n gadael llaeth a gwybodaeth am y peiriant gwerthu cymunedol fel rhan o becyn croeso i westeion. Mae'n fan cyfarfod da gyda'r peiriannau'n cael eu defnyddio'n gyson, gan roi cyfle i gwsmeriaid sgwrsio a bod yn gymdeithasol wrth aros.


"Mae gan leoliad y peiriant gwerthu agwedd gymdeithasol a chymunedol braf iawn.." - CWSMERIAD LLANTEG
"Rwy'n aml yn taro ar y ffermwyr pan fyddant yn llenwi’r peiriannau". -CWSMERIAD LLANTEG

Dogfen ar gael:



Comments


bottom of page