top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Tŷ’r Ffowndri , Penfro

suelatham7

Canolfan Gymunedol yw Tŷ’r Ffowndri yn nhref Penfro. Mae’r Hwb Bwyd ar agor bob dydd Llun, 15:30 - 16:30.



Ceir digonedd o weithgareddau yn Nhŷ’r Ffowndri fel bowls mat byr, ysgol ddrama, caffi seiber a’r Hwb Bwyd wrth gwrs!


Mae Tŷ’r Ffowndri yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr. Lansiwyd yr Hwb Bwyd ar 20fed Mehefin ar gyfer cymuned Penfro. O’r Hwb Bwyd hwn, gallwch brynu ffrwythau, llysiau a salad.


Gwerthwr ffrwythau a llysiau o’r enw Dai's 5 A Day yn Noc Penfro sy’n cyflenwi’r Hwb Bwyd hwn, sy’n 2.5 milltir yn unig o Dŷ’r Ffowndri.


"Dewis gwych ym mag yr Hwb Bwyd heddiw!" – Cwsmer gwerthfawr yr Hwb Bwyd
"Detholiad hyfryd arall o lysiau o’r Hwb Bwyd yr wythnos hon.". - Cwsmer gwerthfawr yr Hwb Bwyd

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch: WCFD@Planed.org.uk


Comments


© 2023 by WCFD

Cyfeiriad

Uned 13, Yr Hen Ysgol, Heol yr Orsaf, Arberth, Sir Benfro, Cymru, SA67 7DU

Cysylltwch

Dilynwch

  • Facebook
  • Instagram

Mae prosiect Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru

Derbyniodd prosiect Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru a phrosiect Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Daeth y ddau brosiect i ben yn llwyddiannus ym mis Mehefin 2023 a bellach nid oes unrhyw gymorth penodol ar ôl cwblhau’r rhaglen. Fodd bynnag, os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y bydd PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol yn gallu helpu.

bottom of page